Ecchi

Ecchi
Enghraifft o'r canlynolanime and manga genre Edit this on Wikidata
Yn cynnwysecchi manga Edit this on Wikidata
Enw brodorolエッチ Edit this on Wikidata
GwladwriaethJapan Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Mae dillad tryloyw a sgertiau yr yn elfen nodweddiadol mewn gweithiau a ystyrir yn ecchi yn y Gorllewin.[1]

Slang yn yr iaith Japaneg ydy Ecchi (エッチ etchi, pronounced [et.tɕi]) am ffantasi erotig ac awgrymiadau rhywiol. Fel ansoddair mae'n golygu "budur", "drwg" neu "fochaidd"; fel adferf (ecchi suru) mae'n golygu gwneud rhywbeth drwg neu anweddus fel cysgu efo rhywun; fel enw mae'n golygu person sy'n cael ei ystyried yn ecchi. Mae'n air tebyg i ero, ond nid mor galed a hentai. Yn ol dull rhufeinig Hepburn o sillafu geiriau Japaneeg, y dull cywiro o sillafu'r gair yw etchi, ond y dull amlaf a mwyaf poblogaidd yw ecchi. Nid oes gan ecchi ystyr mor gryf, na mor gwyrdroedig a'r gair 'hentai'.

Does dim golygfeydd o gyfathrach rywiol mewn ecchi, ond mae llawer o luniau 'meddal' e.e. o nicyrs merched. Mabwysiadwyd y gair ecchi gan Ewropeaid i ddisgrifio gweithiau celf ag arlliwiau rhywiol iddynt. Yn niwylliant y gorllewin, mae bellach yn cyfeirio at rywioldeb meddal neu chwareus. Nid yw gweithiau a ddisgrifir fel ecchi gan orllewinwyr yn dangos cyfathrach rywiol nac organau rhywiol, ond cyfeirir at themâu rhywiol. Caiff ecchi ei ganfod yn y mwyafrif o gomedi shōnen a seinen ac anime harem.[2][3]

Mae ecchi reit boblogaidd mewn manga Shōnen, manga Seinen ac anime harem.

Yn yr 1960au, roedd y gair yn golygu "rhyw" yn yr ystyr cyffredinol, ond erbyn 1965, roedd hyd yn oed plant oed cynradd yn defnyddio'r gair etchi kotoba am "rhywiol". Yn y 1980au roedd yn golygu caru (etchi suru) (to [make] love).[4][5] Mae debygol i'r gair darddu o symbol cyntaf y gair hentai (変態),[6]

  1. Steiff, Josef; Tamplin, Tristan D. (2010). Anime and Philosophy. Popular Culture and Philosophy. 47. Open Court Puplishing. ISBN 978-0-8126-9670-7.
  2. Robin E. Brenner: Understanding manga and anime. Libraries Unlimited, 2007, ISBN 978-1-59158-332-5, p. 89.
  3. Ask John: Why Do Americans Hate Harem Anime?. animenation.net. Mai 20. 2005.
  4. Mark McLelland (2006). A Short History of 'Hentai'. In: Intersections: Gender, History and Culture in the Asian Context. Cyfrol. 12.
  5. Cunningham, Phillip J. (1995). Zakennayo!. Penguin Group. t. 30.
  6. "エッチ" (yn Japanese). 語源由来辞典.CS1 maint: unrecognized language (link)

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search